Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Medi 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4484
------
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
1. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch effaith y fenter ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp ar y sector dur yng Nghymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r gwersi a ddysgwyd yn sgil y sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am benderfyniad y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i beidio â gwneud Avastin, cyffur canser a allai ymestyn bywydau, ar gael fel mater o drefn yn y GIG yng Nghymru?
Gofyn i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol)
4. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Yn sgil digwyddiadau yng Nghatalonia, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU fel rhan o drafodaethau Brexit yr UE a'r DU, ynghylch hawliau is-wladwriaethol llywodraethau i weithredu'n annibynnol heb fod llywodraeth y wladwriaeth yn cyfyngu arnynt?
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad i nodi 30 mlynedd ers gêm Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful yn erbyn Atalanta.
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad i goffáu Trychineb Gresffordd, 22 Medi 1934.
Dechreuodd yr eitem am 15.49
NDM6502 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i recriwtio meddygol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6505 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol', sy'n ceisio ddiddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru.
2. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae o ran sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais cryf i gleifion yng Nghymru.
3. Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a chymunedau a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag ymgysylltu'n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru; a
b) gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' ac ychwanegu 'sy'n amlinellu cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
25 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6505 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol', 'sy'n amlinellu cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
2. Yn nodi bod Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
25 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6506 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot.
2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion adeiladu'r uwch garchar arfaethedig;
b) datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; ac
c) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i garchardai mawr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
3 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r buddsoddiad o £1.3 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio a diweddaru'r ystâd carchardai ar draws Cymru a Lloegr, gan greu cannoedd o leoedd modern i garcharorion a disodli'r hen sefydliadau gorlawn gan adeiladau newydd, addas i'r diben.
2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o hyrwyddo a chlustnodi'r safle arfaethedig ym Mhort Talbot ar gyfer uwch garchar newydd yn ne Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda thrigolion a busnesau lleol ynghylch effaith debygol datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot.
4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o'r safleoedd amgen, gan gyhoeddi'r rhestr arfaethedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, nid yw'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Dechreuodd yr eitem am 18.39
Dechreuodd yr eitem am 18.42
NDM6501 Huw Irranca–Davies (Ogwr)
Y ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ardal Llanharan.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.09
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Medi 2017